'Y Senedd a Fi' sesiwn 20 munud (CA3, 4 a 5)

Cyhoeddwyd 04/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Addas ar gyfer: Disgyblion Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 – 13)

Hyd: 20 munud – ar gael ar-lein neu wyneb yn wyneb

Lleoliad: Yn eich Ysgol - mae gennym swyddogion ar gael ym mhob ardal yng Nghymru. Pan fyddwch yn archebu, bydd eich swyddog agosaf yn cael y sesiwn ac yn ymweld â'ch ysgol

£ Am ddim

 

Gwybodaeth

Mae hon yn ffordd wych o addysgu pobl ifanc am y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru. O ddysgu pwy sy'n eu cynrychioli i sut i fynd ati i ddeisebu, bydd y bobl ifanc yn dysgu sut i leisio eu barn yn y Senedd. Mae'r sesiwn yn cyd-fynd â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru, ac yn annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn ddinasyddion moesol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.

 

Mae'r sesiwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:

  • trafod materion cyfoes yn seiliedig ar eu gwybodaeth a'u gwerthoedd
  • Deall ac arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd
  • deall ac ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu.

 

Archebu

Gallwch archebu eich sesiwn drwy ein ffurflen archebu. Gofynnwch am eich dyddiad dewisol a bydd ein tîm archebu mewn cysylltiad i gwblhau eich archeb. 

Ffurflen archebu