Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau.
Addas ar gyfer: Blynyddoedd 7 - 9
Maint y grŵp: 30 disgybl
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd dysgwyr yn archwilio gorffennol, presennol a dyfodol Cymru drwy ymweld â dau adeilad eiconig ym Mae Caerdydd, sef y Senedd a'r Pierhead. Fel dinasyddion gwybodus, bydd dysgwyr yn archwilio sut mae'r Senedd a gwneud penderfyniadau yng Nghymru ac yn cael eu grymuso i ystyried llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith o amgylch y Senedd. Bydd y disgyblion wedyn yn ymweld â’r Pierhead cyn cwblhau llyfryn gweithgareddau wrth archwilio'r adeilad eiconig hwn.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm