Ella Jones
Dates: 24 Gorffennaf – 1 Medi 2024
Location: Neuadd y Senedd
Artist o Gymru yw Ella Jones ac mae hi’n arbenigo mewn creu gwaith celf rhyngweithiol creadigol sy’n ystyried cymhlethdodau canfyddiad cyffyrddol, gwead, a siapiau. Mae chwarae, chwilfrydedd, materoliaeth, cynaliadwyedd, a chysylltiad cryf â diwylliant Cymru yn ganolog i’w mynegiant artistig.
Cafodd Ella ei hysbrydoli i greu ei gwaith celf ‘Hooked’ gan y dechneg bachyn clicied a gaiff ei defnyddio i greu celf tecstil gwlanog â llaw.
Dechreuodd ei phrosiect fel archwiliad o’r gwahanol arferion cysylltiedig ag uwchgylchu ac ailddefnyddio ffabrig sy’n cael eu defnyddio gan genedlaethau a diwydiannau amrywiol yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith ymchwil, aeth Ella i’r archifdy yn Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan, a rhai o ffatrïoedd tecstiliau Cymru fel Melin Wlân Trefriw a’r Cwmni Cwiltio Cenedlaethol, Ynys Môn.
Mae hefyd wedi bod yn cydweithio ag elusen GISDA, canolfan gymunedol Yr Orsaf, a Galeri Caernarfon i hwyluso gweithdai tecstiliau ar gyfer cymunedau lleol yn y Gogledd. Daeth pobl o bob oed i’r gweithdai gan ysgogi trafodaethau am agweddau cenedlaethau gwahanol tuag at uwchgylchu.
Mae’r teitl yn chwarae ar eiriau ac yn cyfeirio at y dechneg o fachu edafedd ar gynfas rhwyll a hefyd at yr ymroddiad a’r amynedd sydd eu hangen i gwblhau’r dasg sy’n cymryd cryn dipyn o amser. I greu’r gwaith celf, defnyddiodd Ella edafedd dros ben o weithdai a darnau o ffabrig a gafodd yn rhodd.
Ymunwch â ni yn y Senedd i weld y gweithiau celf rhwng 24 Gorffennaf a 31 Awst.
Cafwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i greu ‘Hooked’. Roedd yr arddangosfa i’w weld yn Galeri Caernarfon rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2024.
Lluniau: ©Katie O'Neill ©Ella Jones