Rhyfel a Heddwch: Ysgolion Cymru yn Cofio Rhyfel ac Ymladd

Cyhoeddwyd 22/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Ysgol Cwm Rhondda; Ysgol Garth Olwg; Ysgol Glantaf; Ysgol Gwynllyw; Ysgol Llangynwyd; Ysgol Rhydywaun

Noddir gan Rhys ab Owen AS

Dyddiadau: 28 Mehefin – 26 Gorffennaf 2023

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys ymatebion gan chwe ysgol yn ne Cymru i’r cwestiwn dyrys o sut i goffáu rhyfel ac ymladd.

Gan weithio gyda’r hanesydd Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe a’r artist Siôn Tomos Owen, mae’r plant ysgol wedi creu chwe chofeb newydd mewn ymateb i gofebion rhyfel lleol yn eu hardal. Mae eu creadigaethau lliwgar a thrawiadol yn cyfleu eu teimladau am golled hanesyddol ac osgoi ymladd yn y dyfodol.

Mae’r arddangosfa’n gwneud i ni feddwl am y rôl gymhleth sydd gan gofeb fel teyrnged goffa ac fel ffordd i rybuddio. Wrth iddynt ddarganfod effaith hirdymor ymladd ar eu cymunedau, dewisodd y disgyblion ym mhob un o’r chwe ysgol, heb drafod â’i gilydd, greu ‘cofebion heddwch’, yn lle celf a oedd yn mawrygu rhyfel.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, sef rhaglen bartneriaeth ledled y DU o dros 20 o gomisiynau artistiaid a ysbrydolwyd gan dreftadaeth ymladd. Dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, crëwyd Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW yn dilyn llwyddiant 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.