Tyfu Blodau Lawr y Dociau

Cyhoeddwyd 05/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Haf Weighton, Ysgol Gynradd Cogan ac Ysgol Bro Morgannwg

Noddir gan Vaughan Gething AS

Dyddiadau: 23 Mai – 7 Gorffennaf

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Image: Haf Weighton

Gan weithio gyda'r artist tecstilau Haf Weighton, mae dwy ysgol o Fro Morgannwg wedi creu amrywiaeth o weithiau celf sy'n ymateb i ddarganfyddiadau a wnaeth botanegwr o Gaerdydd 100 mlynedd yn ôl.

Roedd Royston Smith yn fotanegwr o fri a welodd blanhigion anarferol yn tyfu yn nociau'r Barri a Chaerdydd yn ystod y 1920au. Bron canrif yn ddiweddarach, creodd Gail Smith, wyres Smith, gynllun buddugol ar gyfer Sioe Flodau RHS Chelsea 2019 gan ddefnyddio'r un planhigion a ddarganfu.

Tyfodd y blodau anarferol hyn ar eisin grawn a ollyngwyd gan felinau Spillers yn y dociau, a ddygwyd i Dde Cymru ar longau o bob cwr o'r byd.

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Cogan ac Ysgol Bro Morgannwg wedi myfyrio ar y darganfyddiadau hyn drwy waith celf sy'n cynnwys printiau blodau, cerfluniau llong a ffabrigau crog hardd. Roedd ymgysylltu â'r  thema 'Tyfu Blodau Lawr y Dociau' yn galluogi disgyblion Ysgol Bro Morgannwg i fynegi eu hunain a dysgu am straeon eu hardal leol yn ystod cyfnodau clo Covid-19.

Ariannwyd y prosiectau gan: Grant Adfer Cyngor Celfyddydau Cymru, Elusen Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a chefnogwyd y prosiect Creu Tonnau, y Barri, gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Bro Morgannwg.