Dyddiadau: 1 Hydref – 27 Tachwedd
Lleoliad: Tu allan i’r Senedd
Mae UNHCR, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, yn falch o ddod â’r arddangosfa hon i Gymru fel Cenedl Noddfa.
Mae Croeso Mawr i Brydain yn dangos sut y mae cymunedau ledled y DU yn croesawu pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi.
Drwy goginio yng Nghaerdydd, canu yn Greenwich, gwirfoddoli yn Rothesay, ac mewn llawer o ffyrdd cyffredin ac anghyffredin eraill, mae Croeso Mawr i Brydain yn dangos sut y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches ffynnu yn eu cymunedau newydd. Mae hefyd yn dangos sut y mae cymunedau yng Nghymru ac ym Mhrydain yn elwa ar dalentau a safbwyntiau newydd wrth groesawu’r newydd-ddyfodiaid.
Mae storïau Croeso Mawr i Brydain yn cael eu hadrodd gan UNHCR, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, ac mae’r lluniau wedi’u tynnu gan Andrew Testa.
Gallwch ddarllen y storïau yn llawn a gweld rhagor o luniau ar wefan UNHCR.
Oasis Caerdydd. O’r chwith: Alis, cydweithwyr Farzaneh (gwirfoddolwr) a Mansour, ac Uwch Rheolwr Arlwyo Matt, gyda lori fwyd Global Eats.
© UNHCR/Andrew Testa
Refugee Tales yn y South Downs
© UNHCR/Andrew Testa
Portread o Ynys Bute yn cynnwys Wafa, seren y stori hon.
© UNHCR/Andrew Testa
Trefnwyr ac aelodau o Refugees Rock yn y Climbing Hangar yn Lerpwl yn ystod sesiwn fisol.
© UNHCR/Andrew Testa