Oriel y Dyfodol
Bydd prosiectau cymunedol o bob rhan o Gymru yn cael eu harddangos yn Oriel y Dyfodol yn y Pierhead. Mae'r arddangosfeydd hyn yn ymdrin â dyheadau ein cymunedau a’r problemau sy’n eu hwynebu, neu’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Gall artistiaid a sefydliadau allanol wneud cais i gynnal arddangosfa yn Oriel y Dyfodol, y Pierhead os yw eu prosiect yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:
- Mae’n arddangos rhagoriaeth Cymru drwy brosiect cymunedol
- Mae’n archwilio uchelgeisiau a materion cyfredol sy'n wynebu ein cymunedau
- Mae’n rhannu gwybodaeth am ein treftadaeth i gefnogi penderfyniadau heddiw
- Mae’n adlewyrchu dadleuon y Senedd o safbwynt cymunedol
- Mae’n atgyfnerthu hunaniaeth y Pierhead fel atyniad i ymwelwyr
Mannau arddangos sydd ar gael
Dau fwrdd arddangos ar olwynion yn mesur 300cm o led x 200cm o uchder (gellir defnyddio'r ddwy ochr)
Wal haenog yng nghefn yr oriel sy'n 420cm o led x 275cm o uchder
Wal MDF ar ochr chwith yr oriel yn mesur 840cm o led x 275cm o uchder
Dau gwpwrdd gwydr sy’n mesur:
- 90cm o uchder x 100cm o led x 50cm o ddyfnder
- 180cm o uchder x 50cm o led x 50cm o ddyfnder
(efallai y bydd cypyrddau arddangos ychwanegol ar gael ar gais)
55" monitor ar stondin olwynog (efallai y bydd monitorau ychwanegol ar gael ar gais)
Celf
Gellir chwarae darnau sain/gweledol ar y monitorau sydd ar gael.
Gellir arddangos gwaith celf 3D fel darn annibynnol y tu ôl i rwystrau isel neu mewn cypyrddau gwydr (yn dibynnu ar faint y darn).
Gellir arddangos gwaith celf 2D ar ein byrddau arddangos.
Gosod a hongian
Mae'r byrddau arddangos yn addas ar gyfer gwaith celf ysgafn neu drwm a gellir eu defnyddio naill ai ein system hongian neu dâp Command neu Velcro.
Mae ein system hongian yn defnyddio cyfuniad o fachau a chordiau ar gyfer llwythi hyd at 20 kg.
Gellir hongian gweithiau celf ar y waliau haenog a’r waliau MDF drwy ddefnyddio tâp command neu felcro.
Hefyd, gellir gosod gweithiau celf ar y waliau hyn gan ddefnyddio platiau drych a sgriwiau, neu ddull hongian priodol arall, pe bai hyn yn well.
Goleuo
Gellir addasu'r goleuadau yn Oriel y Dyfodol drwy ddefnyddio'r sbotolau trac.
Hygyrchedd
Mae'r Pierhead yn adeilad cwbl hygyrch. Gellir defnyddio grisiau neu lifft i gyrraedd Oriel y Dyfodol.
Mae lifft allanol ar gael i ymwelwyr anabl yn ein man parcio hygyrch y tu allan i'r Senedd.
chevron_right