Beth yw y Farchnad?
Bydd cynrychiolwyr sefydliadau o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan, a bydd cyfle i chi gynnal stondin ar batrwm marchnad, lle gall gwesteion ac Aelodau o'r Senedd alw heibio a chwrdd â’r sefydliadau sy'n cymryd rhan drwy gydol y dydd.
Ar gyfer pwy mae'r Farchnad?
Bydd Y Farchnad yn dod ag amrywiaeth o faterion, grwpiau cymunedol a phynciau i’r amlwg, gyda chynrychiolwyr yn cynnal stondinau mewn marchnadle lle y gall gwesteion alw heibio a chwrdd â’r sefydliadau sy’n cymryd rhan ar y diwrnod hwnnw.
Ble?
Bydd Y Farchnad yn cael ei chynnal yn yr Oriel, y Senedd.
Darllenwch fwy am sut i gyrraedd y Senedd.
Pryd?
Bydd Y Farchnad yn cael ei chynnal ar y trydydd dydd Mawrth ym mhob mis, yn lle’r sesiynau galw heibio cyson a gynhelid gan sefydliadau yn ystafelloedd bwyta Tŷ Hywel.
Gwybodaeth i sefydliadau
- Bydd pob sefydliad yn cael bwrdd sydd â lle i faner godi o faint safonol.
- Gall sefydliadau ddod â deunyddiau gwybodaeth megis taflenni neu adroddiadau a'u dyfais eu hunain, megis gliniadur.
- Mae Wi-Fi ar gael i bob gwestai, ond ni ellir gwarantu mynediad at ffynonellau trydan ar y safle. Ni fydd cymorth clyweledol yn cael ei ddarparu.
- Gall sefydliadau archebu detholiad bach o frechdanau neu bice ar y maen drwy ein cyflenwr arlwyo ar gyfer eu stondinau. Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyn pan fydd eich bwrdd wedi'i archebu.
I gymryd rhan yn Y Farchnad, rhaid i sefydliadau sicrhau bod ganddynt Nawdd Aelod. Mae croeso i Aelodau noddi mwy nag un sefydliad mewn digwyddiad.
Barod i gymryd rhan?
chevron_rightCeir rhagor o wybodaeth am ein fformat Marchnad ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.