Gweithgareddau i blant

Cyhoeddwyd 03/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae gan y Senedd le chwarae i blant sy’n llawn teganau, adnoddau chwarae synhwyraidd a map mawr o Gymru.

Mae gennym hefyd amrywiaeth o weithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r ysgol, a llwybr archwilio'r Senedd i ddiddanu'r rhai bach drwy'r flwyddyn.

Yr Ardal Chwarae

Mae gan ein hardal sy'n ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda hwy a map mawr o Gymru i'w archwilio.

Mae gennym hefyd ystod o eitemau chwarae synhwyraidd fel blociau adeiladu, botymau sain ac ysgwydwyr.

Tra bod y plant yn chwarae gallwch chi fwynhau paned yng nghaffi'r Senedd, sydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.

 

Fforwyr y Senedd

Archwilio'r senedd gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed.

Wyt ti’n barod i Grwydro’r Senedd? Wrth i ti grwydro'r adeilad, mae pump gweithgaredd i ti roi cynnig arnynt.

Dechreuwch wrth y mapiau o Gymru, gwnewch eich ffordd i'r twndis, dod o hyd i'r Ddreser Gymreig, a dewch o hyd i'r Oriel Gyhoeddus!

Rho gynnig ar bob gweithgaredd i gael dy sticer Crwydro’r Senedd.

 

Mae llawer mwy i'w archwilio yn ystod eich ymweliad â'r Senedd fel arddangosfeydd a theithiau.

 

Archwilio mwy o bethau i'w gwneud