Arwyr Pob Dydd: Safbwyntiau Gweithwyr Allweddol y Pandemig

Cyhoeddwyd 17/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

 

Yn ymuno â ni yn y digwyddiad hwn, mae rhai o'r gweithwyr allweddol sydd wedi cadw'r wlad i fynd, yn darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod pandemig COVID-19.

O dan gadeiryddiaeth Andrea Byrne (Cyflwynydd Teledu a Newyddiadurwr ITV Cymru), bydd y panel isod yn trafod sut y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw, eu cyd-weithwyr, a'r gymuned ehangach, a sut mae eu profiadau wedi llywio eu barn am flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a'u priod feysydd gwaith.