Sgwrs gyda Charlotte Church

Cyhoeddwyd 30/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae Charlotte Church yn gantores-gyfansoddwraig, actores, cyflwynydd teledu ac ymgyrchydd gwleidyddol.

Daeth i enwogrwydd yn ei phlentyndod fel cantores glasurol cyn mentro i faes canu pop gan werthu miliynau o recordiau led-led y byd.

Yn y sgwrs hon gyda Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd Charlotte yn rhannu ei phrofiad o dyfu i fyny gyda’r celfyddydau ac yn tafoli sut y maent yn ganolog i ddemocratiaeth fywiog yng Nghymru a chyfrannu at roi Cymru ar y llwyfan byd-eang.