Cadwch lygad ar ein tudalen beth sy’n digwydd ar gyfer arddangosfeydd sydd yn yr arfaeth, prosiectau ar-lein, yn ogystal ag arddangosfeydd sy'n mynd ar daith i leoliadau yn eich ardal chi.
Ymweld ag Arddangosfa
Mae arddangosfeydd yn y Senedd yn arddangos Cymru ar ei gorau, yn amrywio o bartneriaethau â sefydliadau cenedlaethol allweddol i brosiectau wedi’u datblygu gyda chymunedau Cymru
Teithiau Grŵp
Ymunwch â thaith dywys a dysgwch fwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.
Archebwch Daith Grŵp chevron_rightGweithgareddau i blant
Mae gan y Senedd le chwarae i blant sy’n llawn teganau, adnoddau chwarae synhwyraidd a map mawr o Gymru.
Mae gennym hefyd amrywiaeth o weithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r ysgol, a llwybr archwilio'r Senedd i ddiddanu'r rhai bach drwy'r flwyddyn.
Mae'r Senedd yn ystâd sy'n gyfeillgar i fwydo ar y fron ac mae gan ein caffi gyfleusterau gwresogi llaeth babanod. Mae cyfleusterau newid babanod hefyd ar gael ar y safle.
Cael Profiad o Ddemocratiaeth ar Waith
Mae tryloywder wrth wraidd y Senedd
Cewch eistedd yn yr oriel gyhoeddus a gwylio democratiaeth ar waith.
Mae'r 60 Aelod o'r Senedd oll yn cyfarfod yn y Siambr ar gyfer y Cyfarfod Llawn bob prynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher (yn ystod tymor yr ysgol). Mae seddi ar gael ar y diwrnod fel arfer, ond mae modd neilltuo seddi ymlaen llaw.
Hefyd, gellir gwylio cyfarfodydd pwyllgor o'r orielau cyhoeddus. Gofynnwch wrth ddesg y dderbynfa yn y Senedd, cadwch lygad ar ein sgriniau gwybodaeth i'r cyhoedd, neu ewch i'n gwefan i gael gwybod beth sy’n digwydd heddiw.
Taith Rithwir
Mae ein taith rithwir a ddatblygwyd yn ddiweddar yn ffordd wych o grwydro'ch Senedd
Drwy glicio ar eiconau a delweddau amrywiol ar hyd y ffordd gallwch ddysgu mwy am gartref Senedd Cymru a chwrdd â’n tywyswyr a fydd yn hapus i ddweud ychydig mwy wrthych am wahanol rannau o’r Senedd.
Sesiynau ymgysylltu ar-lein
Sesiynau ymgysylltu ar-lein
Dysgwch sut y mae penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru drwy gadw lle ar ein gweithdai a'n cyflwyniadau ar-lein am ddim.
Ewch ar daith hunan dywys
Taith hunandywysedig
Ymunwch â ni ar y daith hon wrth i ni eich tywys drwy'r mannau cyhoeddus a dweud wrthych am elfennau gwahanol o'r adeilad.
Dilyn stori datganoli
I nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, rydym wedi datblygu llinell amser o gerrig milltir allweddol o daith Cymru i ddatganoli a'r llwyddiannau allweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf
Gellir gweld yr amserlen, a guradwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, o amgylch y twndis, sef canolbwynt yr Oriel.
Siop a Chaffi
Llwyfan ar gyfer rhagoriaeth yn cynnwys ystod o gynhyrchion o Gymru ac wedi'u hysbrydoli gan Gymru
O roddion moethus i'r llyfrau diweddaraf, i fwyd a diod orau Cymru, bydd rhywbeth i'w brynu i'ch atgoffa o'ch ymweliad. Hefyd, mae gennym gaffi cyfforddus y tu mewn sy'n cynnig ystod o ddiodydd poeth ac oer, tameidiau a theisennau a phwdinau sy'n tynnu dŵr o'ch dannedd. Gyda chyfleusterau Wi-Fi ardderchog, man eistedd mawr a golygfeydd prydferth o fae Caerdydd, y Senedd yw’r man cyfarfod delfrydol!