Rhys Ab Owen AS

Rhys Ab Owen AS

Cyfle Gwaith: Uwch Swyddog Cyswllt i Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd 28/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Uwch-swyddog Cyfathrebu i Rhys ab Owen AS

Ystod cyflog: (pro rata) £30,520 - £42,811

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8 awr yr wythnos (2 ddiwrnod)

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Hybrid

Cyfeirnod: MBS-041-24

Diben y swydd

Rheoli gwaith sy’n gysylltiedig â’r wasg a’r cyfryngau, fel sy'n ofynnol ar gyfer yr Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

  1. Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn â'r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd
  2. Rheoli systemau swyddfa’r wasg a monitro dulliau rhyddhau i’r cyfryngau yn effeithiol, o ran y cyfryngau print, darlledu ac ar-lein er mwyn sicrhau cydgysylltiad effeithiol o fewn y grŵp.
  3. Cynllunio a datblygu strategaethau, a threfnu ymgyrchoedd y cyfryngau
  4. Trafod â’r Aelodau o’r Senedd/Rheolwyr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau.

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad sylweddol o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus yn ddelfrydol mewn amgylcheddol wleidyddol neu debyg.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd ar y cyfryngau.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg
  • Profiad neu ddealltwriaeth o gyfraith y cyfryngau.
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.

Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol

  • Dealltwriaeth o gyfraith y cyfryngau  Tystiolaeth o gydlynu gwaith tîm i sicrhau bod gwaith yn cael ei gynhyrchu i derfynau amser tyn
  • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a'r gallu i feithrin perthnasoedd ar draws ffiniau proffesiynol ag aelodau o’r wasg a’r cyfryngau.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol – gyda'r gallu i ysgrifennu a siarad yn glir a chryno a chynhyrchu papurau briffio a hysbysiadau i'r wasg, gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG, gan gynnwys rhaglenni Microsoft Word, Outlook ac Excel, a chyhoeddi ar bob platfform, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol
  • Gweithio'n rhagweithiol gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl;
  • Y gallu i achub y blaen, esgor ar syniadau a chyfathrebu eitemau newyddion yn effeithiol;

Dymunol

  • Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a’r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru
  • Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
  • Yn arddel amcanion a gwerthoedd y blaid

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â nichola.ryan@senedd.wales

Dyddiad cau: 17:00, 06 Ionawr 2025

Dyddiad cyfweliad: i'w cadarnhau