Uwch-gynghorwr i Grŵp Plaid Cymru
Ystod cyflog: (pro rata) £40,845 - £49,752
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr
Natur y penodiad: Parhaol, yn dechrau ar y 1 Ebrill 2025
Lleoliad: Tŷ Hywel, Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-042-24
Diben y swydd
Swyddogaethau craidd y Senedd yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi yng Nghymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Drwy fusnes ffurfiol y Senedd yn bennaf, sef yn y Cyfarfod Llawn ac yng nghyfarfodydd y pwyllgorau, y caiff y Llywodraeth ei dwyn ei gyfrif, y caiff syniadau polisi eu trafod a’u datblygu, ac y bydd cynigion ar gyfer deddfwriaeth, polisi a gwariant yn cael eu gwella wrth i Senedd Cymru graffu arnynt.
Bwriad rôl yr Uwch-gynghorwr yw ychwanegu dimensiwn arall at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i Aelodau o’r Senedd wrth iddynt ymgymryd â'r gwaith hwn.
Prif ddyletswyddau
- Darparu cyngor arbenigol fel arbenigwr mewn strategaeth wleidyddol a negeseuon i'r Arweinydd ac i aelodau'r Grŵp.
- Rhoi cyngor ynghylch materion polisi, cyllid a deddfwriaeth gerbron y Senedd, ac unrhyw agwedd arall ar fusnes y Senedd.
- Nodi materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n berthnasol i fusnes y Senedd, a briffio'r Aelodau yn unol â hynny.
- Cyfrannu at y broses o feddwl am bolisïau a'u cynllunio .
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
- Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o ddatblygu polisïau a strategaethau.
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
- Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Sgiliau ac Ymddygiadau Hanfodol
- Barn a meddwl clir o ran dyrannu adnoddau ac ymateb i alwadau sy'n cystadlu â'i gilydd, a'r gallu i wneud penderfyniadau doeth mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif sy'n newid yn gyflym.
- Sgiliau cyfathrebu, sensitifrwydd a'r bersonoliaeth i ennyn ymddiriedaeth a hyder Aelodau ac uwch-swyddogion eraill yn y Grŵp.
- Sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel i ddeall a beirniadu polisi cymhleth a deunydd deddfwriaethol.
- Sgiliau drafftio a chyflwyno rhagorol i gyflwyno materion cymhleth ac opsiynau polisi yn glir, yn gryno ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cryn dipyn o ymwybyddiaeth wleidyddol a'r gallu i deilwra cynnyrch yn ôl anghenion a blaenoriaethau Aelodau'r Grŵp.
- Dealltwriaeth o waith y Senedd a gwaith Aelodau o'r Senedd
- Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm bach.
Dymunol
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a’r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru.
- Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Yn arddel amcanion a gwerthoedd y blaid.
- Profiad blaenorol o weithio i Aelod o’r Senedd, Aelod Seneddol neu Aelod o Senedd Ewrop.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i francess.ifan@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00, 13 Rhagfyr 2024
Dyddiad cyfweliad: Yn ystod wythnos 6 Ionawr 2025